Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Gwener, 25 Hydref 2019
Amser:
09.31 -
11.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6000
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Ann Jones AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Jayne Bryant AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Mike Hedges AC Bethan Sayed AC Dai Lloyd AC Lynne Neagle AC Nick Ramsay AC David Rees AC |
Tystion: |
Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru Des Clifford, Llywodraeth Cymru Liz Lalley, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Ross Davies (Dirprwy Glerc) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) Nia Moss (Ymchwilydd) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Janet Finch-Saunders a Russell George.
Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog ynghylch y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.
Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu’r canlynol:
· nodyn ar y trafodaethau y mae ei swyddogion yn eu cael gyda Vertex Pharmaceuticals ar argaeledd y cyffur ffibrosis systig Orkambi yng Nghymru; a
· chadarnhad a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud asesiad o effaith ansicrwydd mewn perthynas â buddsoddiad gan Gronfa Bensiwn Byddin Twrci ar ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth o’r sesiynau blaenorol a chytunwyd ar y trefniadau ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Chwefror 2020.